minws (minysau) eg

Arwydd: –

Dyma’r enw ar yr arwydd sy’n cynrychioli un o’r gweithrediadau mwyaf cyffredin, sef tynnu.

Mae’r arwydd hwn yn cael ei ddefnyddio i ddangos bod y rhif sydd ar ei ôl i’w dynnu o’r rhif sydd o’i flaen.

Er enghraifft, rydym yn darllen 5 – 2 fel pump minws dau.