abacws (abaci)eg
Ffrâm gyfrif yw abacws.
Ganrifoedd cyn i’r ffurf fodern o ysgrifennu rhifau gael ei chyflwyno, roedd abacws yn cael ei ddefnyddio i gyfrif.
Mae wedi ei wneud o nifer o leiniau sy’n llithro ar hyd gwifrau.
Mae’n gallu cael ei ddefnyddio i:
• adio
• tynnu
• lluosi
• cyfrif.