rhif cyfan (rhifau cyfan)eg

Mae’r rhifau 0, 1, 2, 3, 4, ac yn y blaen yn rhifau cyfan. Maen nhw’n debyg i gyfanrifau, ond nid yw rhifau cyfan yn cynnwys rhifau negatif. Fel, cyfanrifau, nid oes gan rifau cyfan ran ffracsiynol na degolyn dros ben.