cyfradd fenthyg (cyfraddau benthyg) eb
Dyma’r term am y swm o arian mae banc yn ei godi am fenthyg arian i gwsmer.
Er enghraifft, mae Meinir eisiau prynu car newydd. Mae hi’n benthyca £2000 gan y banc ar gyfradd o 5% dros gyfnod o 3 blynedd.
Rydym yn cyfrifo’r swm o arian mae’r banc yn ei godi am fenthyg £2000 fel hyn:
-
0.05 × 2000 × 3 = 300
Felly, mae’n rhaid i Meinir dalu £300 am gael benthyg £2000.
Bydd rhaid iddi dalu cyfanswm o £2300.