dibynadwyedd eb

Dibynadwyedd yw mesur o ba mor fanwl gywir yw dull, neu i ba raddau y mae modd dibynnu ar ganlyniad.

Er enghraifft, mae arbrawf yn cael ei gynnal sawl gwaith, ac mae’r canlyniadau’n agos i’w gilydd bob tro. Gallwn ddweud, felly, bod y canlyniadau’n ddibynadwy.