rhif degol (rhifau degol) eg

Mae degol yn cyfeirio at gyfundrefn rifo wedi’i seilio ar 10.

Mae rhif degol yn cynnwys pwynt degol. Mae’r pwynt degol yn cael ei roi i’r dde o’r golofn unedau, ac mae pob colofn ar ôl y pwynt degol yn cynnwys rhan ffracsiynol sy’n cael ei hadnabod fel lle degol (degfed, canfed, milfed ac yn y blaen).

Er enghraifft, mae 56.4 yn rhif degol. Mae ganddo 5 deg, 6 uned a 4 degfed.