ehangube
Mewn algebra, mae ehangu yn broses lle rydym yn lluosi gwrthrychau gwahanol mewn mynegiad (sydd mewn cromfachau) i gael mynegiad newydd (sydd ddim mewn cromfachau).
Gadewch i ni ehangu’r mynegiad 5(2x – 3) fel enghraifft.
-
5(2x – 3)
= 5 × 2x – 5 × 3
= 10x – 15
Felly, y mynegiad newydd yw 10x – 15.