pyramid (pyramidiau)eg
Siâp tri dimensiwn yw pyramid. Mae ei sylfaen ar ffurf polygon, ac mae ganddo wynebau trionglog sy’n cyfarfod ar bwynt uwchben y sylfaen. Enw’r pwynt hwn yw pen neu apig y pyramid.
Y fformiwla ar gyfer cyfaint pyramid yw:
Mae s yn cynrychioli arwynebedd y sylfaen ac mae u yn cynrychioli uchder y pyramid (y pellter lleiaf o’r sylfaen i’r apig).
Mae pyramid cyffredin (fel yn yr Aifft) yn byramid sydd â sylfaen sgwâr.
Yr enw ar byramid sydd â sylfaen triongl yw tetrahedron. Mewn tetrahedron, triongl yw siâp pob un o’r wynebau.
Wynebau siâp triongl sydd gan bob math o byramid, ond mae siâp y sylfaen yn gallu amrywio.