rhifolyn (rhifolion) eg
Symbol sy’n cael ei ddefnyddio i gynrychioli rhif yw hwn.
Mae dau fath o rifolyn.
(1) Rhifolion Rhufeinig:
-
I = 1
V = 5
X = 10
L = 50
C = 100
D = 500
M = 1000
(2) Rhifolion Hindŵ-Arabaidd, sef y rhifau 0, 1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8 a 9. Dyma’r math sy’n cael ei ddefnyddio’n eang heddiw.