helaethiad (helaethiadau) eg

Wrth wneud siâp yn fwy neu’n llai, yr hyn rydym yn ei greu yw helaethiad. Rydym yn defnyddio ffactor graddfa i wneud hyn.

Mewn helaethiad, nid yw’r siâp a’r ddelwedd yn gyfath ond maen nhw’n gyflun. Mae hyd yr ochrau’n newid, ond mae’r onglau yn aros yr un peth.