tangram (tangramau)eg

Pos yw tangram. Mae’n un sgwâr mawr, fel arfer, sydd wedi’i rannu yn saith siâp:

    • un paralelogram

    • un sgwâr

    • pum triongl.

Mae’r saith siâp hyn yn gallu cael eu gosod mewn ffyrdd gwahanol. Er enghraifft, ar ffurf tŷ.