cymhareb unedol

Cymhareb a : b lle mae a neu b yn 1 yw cymhareb unedol. Mae 1 : 3 a 5 : 1 yn enghreifftiau.

Enghraifft arall yw rysáit i wneud crwst. Mae’r rysáit yn nodi y dylid cymysgu braster a blawd yn ôl y gymhareb 1 : 2. Mae hyn yn golygu bod swm y braster sy’n cael ei ddefnyddio yn hanner swm y blawd.