rhyngdoriad (rhyngdoriadau)eg

Dyma’r term sy’n cael ei ddefnyddio am y pwynt lle mae llinell neu gromlin yn croestorri echelin benodol.

Fel arfer, mae’r echelinau wedi eu labelu â’r newidynnau x ac y.

Mae’n bosibl cael rhyngdoriad x a rhyngdoriad y. Felly, yr enw ar y pwynt lle mae’r llinell neu’r gromlin yn croestorri’r echelin-x yw rhyngdoriad x, a’r enw ar y pwynt lle mae’r llinell neu’r gromlin yn croestorri’r echelin-y yw rhyngdoriad y.