cysonyn (cysonion) eg

Dyma’r term am werth nad yw’n amrywio. Mae’n werth sefydlog.

Mewn algebra, gall cysonyn fod yn:

     (1) rhif ar ei ben ei hun

     (2) llythyren fel a, b neu c sy’n sefyll am rif sefydlog.

Er enghraifft, yn yr hafaliad cyferbyn, cysonion yw 3 a 6.