cyflun ans
Mae dau siâp yn gyflun os ydynt yn union yr un siâp, a’r unig beth sy’n wahanol yw eu maint.
Pe bai’r siapiau yn hafal o ran maint ac yn union yr un siâp, yna byddai’r siapiau yn gyfath.
Mae’n bosibl defnyddio ffactor graddfa i ddisgrifio faint yn fwy yw un siâp cyflun o’i gymharu â’r llall.