talgrynnu be

Dyma’r term am leihau nifer y digidau mewn rhif i hwyluso’r gwaith cyfrifo.

Mae hyn yn golygu er nad yw’r canlyniad yn fanwl gywir, mae’n ddigon agos at yr ateb cywir.

Dyma’r ddwy ffordd fwyaf cyffredin o dalgrynnu:

(1) Talgrynnu i fyny – mae hyn yn digwydd os 5, 6, 7, 8 neu 9 yw’r digid cyntaf y mae’n rhaid ei hepgor.

Er enghraifft, 1189 wedi’i dalgrynnu i’r cant agosaf yw 1200.

(2) Talgrynnu i lawr – mae hyn yn digwydd os 0, 1, 2, 3 neu 4 yw’r digid cyntaf y mae’n rhaid ei hepgor.

Er enghraifft, 1243 wedi’i dalgrynnu i’r cant agosaf yw 1200.

Mae’n bosibl talgrynnu:

    • i’r deg agosaf, er enghraifft, 8764 i’r deg agosaf yw 8760

    • i’r fil agosaf, er enghraifft, 12 690 i’r fil agosaf yw 13 000

    • i’r metr agosaf, er enghraifft, 12.8 m i’r metr agosaf yw 13 m

    • i nifer penodol o leoedd degol, er enghraifft, 34.867 i 1 lle degol yw 34.9, ac 0.0165 i 2 le degol yw 0.017.