perimedr (perimedrau) eg Y pellter o amgylch siâp dau ddimensiwn yw perimedr. Rydym yn cyfrifo perimedr siâp drwy adio hyd ei ochrau. Er enghraifft, perimedr y petryal hwn yw: 6 + 12 + 6 + 12 = 36 cm Os cylch yw’r siâp, yr enw ar y pellter o’i amgylch yw cylchedd.