siâp (siapiau) eg
Mae’n bosibl ffurfio siâp gan ddefnyddio pwyntiau, llinellau, cromliniau ac wynebau.
Mae siâp gwrthrych yn cael ei adnabod trwy edrych ar ei ffin allanol.
Mae mathau gwahanol o siapiau:
-
• un dimensiwn (llinellau)
-
• dau ddimensiwn (cylch, sgwâr, octagon ac yn y blaen)
-
• tri dimensiwn (sffêr, ciwboid, tetrahedron ac yn y blaen).