gweithrediad gwrthdro (gweithrediadau gwrthdro) eg

Gweithrediad sy’n dadwneud gweithrediad arall yw hwn.

Mae adio a thynnu yn weithrediadau gwrthdro.

Er enghraifft, 5 + 6 – 6 = 5.

Yn yr enghraifft hon, rydym yn dechrau gyda 5, yna’n adio 6 sy’n rhoi cyfanswm o 11. Yna, rydym yn tynnu 6 sy’n rhoi cyfanswm o 5, sef y rhif oedd gennym i ddechrau.

Mae lluosi a rhannu yn weithrediadau gwrthdro.

Er enghraifft, 6 × 10 ÷ 10 = 6.

Yn yr enghraifft hon, rydym yn dechrau gyda 6, yna’n lluosi â 10 sy’n rhoi cyfanswm o 60. Yna, rydym yn rhannu â 10 sy’n rhoi cyfanswm o 6, sef y rhif oedd gennym i ddechrau.

Mae gweithrediad gwrthdro hefyd yn ymwneud â thrawsfudo siapiau. Mae’n symud siâp yn ôl i’w leoliad gwreiddiol.

Edrychwch ar y llun.

Mae triongl A yn cael ei drawsfudo tair uned i’r dde a dwy uned i lawr er mwyn ei symud i leoliad triongl B. Y gweithrediad gwrthdro er mwyn symud triongl B yn ôl i’w leoliad gwreiddiol, sef triongl A, yw tair uned i’r chwith a dwy uned i fyny.