adlog (adlogau) eg
Llog sy’n cael ei gyfrifo ar y swm cyfan yw adlog. Hynny yw, y swm gwreiddiol sy’n cael ei fenthyg a’r llog sy’n cael ei ychwanegu ato.
Mae’n wahanol i log syml sy’n cael ei gyfrifo ar y swm gwreiddiol yn unig.
Mae adlog fel arfer yn cael ei gyfrifo unwaith y flwyddyn, neu weithiau’n fwy na hynny.
Gadewch i ni ddefnyddio’r canlynol fel enghraifft.
Mae un o’r prif fanciau yn cynnig adlog o 6% ar swm o arian sy’n cael ei fuddsoddi dros gyfnod o 3 blynedd.
Mae Dewi wedi ennill £2000 ar docyn loteri ac mae’n penderfynu ei fuddsoddi. Gan ddefnyddio’r wybodaeth hon, gallwn gyfrifo beth fydd gwerth y buddsoddiad hwn ar ddiwedd y 3 blynedd.
Ar ddiwedd blwyddyn 1, bydd y buddsoddiad yn werth £2000 × 1.06 = £2120
Ar ddiwedd blwyddyn 2, bydd y buddsoddiad yn werth £2120 × 1.06 = £2247.20
Ar ddiwedd blwyddyn 3, bydd y buddsoddiad yn werth £2247.20 × 1.06 = £2382.03
Felly, yr adlog y bydd Dewi yn ei gael yw’r swm terfynol – swm gwreiddiol, sef £2382.03 – £2000 = £382.03.