prawf (profion)eg

Mae dau ystyr i’r enw ‘prawf’:

(1) Set o gwestiynau sy’n cael ei gosod er mwyn profi dealltwriaeth o waith penodol, fel sy’n digwydd mewn arholiad.

(2) Tystiolaeth fathemategol sy’n defnyddio dadleuon ffurfiol i brofi gosodiad neu theorem fathemategol.