deuddegfed eg

Mae dau ystyr i ‘deuddegfed’:

(1) Mae’n gallu golygu un rhan o ddeuddeg sy’n cael ei gofnodi fel ffracsiwn, \dfrac1{12}.

Er enghraifft, mae’r llun cyferbyn yn dangos teisen wedi’i rhannu’n ddeuddeg darn cyfartal.

Mae Salma yn cymryd un darn o’r deisen, felly mae hi’n cael \dfrac1{12}.

(2) Gall hefyd olygu rhif 12 mewn cyfres o rifau.

Mae 12fed yn ymddangos ar ôl yr 11eg, ond cyn y 13eg.

Er enghraifft, mae 13 person yn aros i weld y deintydd. Maen nhw wedi’u rhestru yn ôl trefn amser eu hapwyntiad.

Salma yw’r 12fed person ar y rhestr.