digwyddiad dibynnol (digwyddiadau dibynnol) eg
Mae’r term hwn yn cael ei ddefnyddio yng nghyd-destun tebygolrwydd.
Mae’n disgrifio digwyddiad sydd wedi ei effeithio gan ddigwyddiad blaenorol.
Meddyliwch am gownteri mewn bag – dau gownter coch a thri chownter glas. Bob tro mae cownter yn cael ei dynnu o’r bag, mae’r tebygolrwydd o dynnu cownter glas neu goch yn newid.