ongl (onglau)eb
Ongl yw maint y cylchdro rhwng dwy linell syth sy’n cwrdd ar bwynt penodol, sef fertig yr ongl.
Mae sawl math o ongl:
-
• ongl lem
• ongl atblyg.
Gallwn fesur onglau mewn gwahanol ffyrdd:
-
• defnyddio ffracsiwn, er enghraifft, hanner tro neu chwarter tro
• defnyddio graddau (°) lle mae tro cyflawn yn 360°
• defnyddio radianau (rad) lle mae tro cyflawn yn 2π rad.
Rydym yn defnyddio onglydd i luniadu ac i fesur onglau. Fodd bynnag, mae’n bosibl lluniadu rhai onglau, er enghraifft 30°, 45°, 60°, 90°, gan ddefnyddio pren mesur a chwmpas yn unig.
Mae dwy ongl gan fertig mewn polygon:
-
• ongl fewnol
• ongl allanol.
Gyda’i gilydd bydd yr ongl fewnol a’r ongl allanol yn adio i 360°.
Mae’n bosibl darganfod rhai onglau heb eu mesur. Er enghraifft, onglau croesfertigol, onglau eiledol neu onglau cyfatebol.