pen saeth (pennau saeth)eg
Pedrochr afreolaidd sydd â phedwar fertig a phedair ochr yw pen saeth. Mae ganddo ddau bâr o ochrau cyfagos sy’n hafal o ran hyd, ac un ongl fewnol sy’n fwy na 180°.
Mae ei groeslinau yn croesi ar ongl sgwâr tu allan i’r siâp, ac mae ganddo un llinell cymesuredd.
Enw arall ar ben saeth yw blaen saeth.