cyfenwadur (cyfenwaduron) eg

Dyma’r term am enwadur cyffredin dau neu fwy o ffracsiynau.

Rhaid i’r enwaduron fod yr un peth cyn gallu adio neu dynnu ffracsiynau.

Gallwch ddarganfod cyfenwadur trwy roi cynnig ar ddefnyddio lluosrifau gwahanol sy’n ffurfio ffracsiynau cywerth.

Gadewch i ni ddefnyddio \frac{1}{3} a \frac{1}{2}.

Gan gofio bod rhaid i’r enwaduron fod yr un peth, nid yw’n bosibl adio \frac{1}{3} a \frac{1}{2} fel y mae. Er hyn mae’n bosibl defnyddio ffracsiynau cywerth ar gyfer \frac{1}{3} a \frac{1}{2} er mwyn gallu eu hadio.

Gallwn luosi \frac{1}{3} a \frac{2}{2} i gael \frac{2}{6}.

Yna, gallwn luosi \frac{1}{2} a \frac{3}{3} i gael \frac{3}{6}.

Mae enwaduron y ffracsiynau nawr yr un peth, felly gallwn adio \frac{2}{6} a \frac{3}{6} i gael \frac{5}{6}.

Felly, mae \frac{1}{3} a \frac{1}{2} yn rhoi \frac{5}{6}.