CORLAT

Acronym yw CORLAT sy’n ymwneud â deall a defnyddio gweithrediadau rhif. Mae’n ffordd o gofio pa drefn yw’r un gywir wrth gyfrifo.

I ddechrau, rydym yn cyfrifo popeth sydd mewn cromfachau (C). Yna, rydym yn symud at unrhyw orchmynion (O), sef pwerau ac israddau. Ar ôl hynny, rydym yn symud o’r chwith i’r dde, gan naill ai rhannu (R) neu luosi (L). Yn olaf, rydym yn symud o’r chwith i’r dde unwaith eto, gan naill ai adio (A) neu dynnu (T).

Gadewch i ni ddefnyddio’r sym 3 × (7 – 3) fel enghraifft.

Sylwch fod cromfachau, arwydd lluosi ac arwydd tynnu yma. Gan fod CORLAT yn dweud wrthon ni bod yn rhaid trin cromfachau yn gyntaf, dyma sy’n digwydd:

       3 × (7 – 3)
    = 3 × 4
    = 12

Enghraifft arall yw’r sym 2 + 3 × 5 – 4.

Gallwn weld tri arwydd gwahanol yma, sef adio, tynnu a lluosi. Gan fod CORLAT yn dweud wrthon ni bod lluosi yn dod cyn adio a thynnu, dyma sy’n digwydd:

       2 + 3 × 5 – 4
    = 2 + 15 – 4
    = 17 – 4
    = 13

Rydym weithiau’n cyfeirio at ‘CORLAT’ fel ‘CIRLAT’.