arffin (arffiniau) eb

Dyma’r enw ar y terfyn lleiaf a mwyaf ar werthoedd a mesuriadau.

Er enghraifft, os yw darn o bren yn 11 cm o hyd i’r centimetr agosaf, beth yw ystod bosibl hyd y darn o bren?

Mae’n rhaid ei fod o leiaf 10.5 cm o hyd er mwyn ei dalgrynnu i fyny i 11 cm. Ond, mae’n rhaid ei fod yn llai nag 11.5 cm er mwyn ei dalgrynnu i lawr i 11 cm. Arffin yw’r enw ar y gwerthoedd hyn.

Felly, 10.5 cm yw’r arffin isaf ac 11.5 cm yw’r arffin uchaf.