sero (seroau) eg
Dyma’r enw ar y rhif cyfan rhwng –1 ac 1.
Rydym weithiau’n cyfeirio ato fel ‘gwagnod’ neu ‘dim’. Mae’n dangos nad oes unrhyw werth.
Er enghraifft, 7 – 7 = 0. Y gwahaniaeth rhwng saith a saith yw sero.
Mae sero hefyd yn sail i’r drefn ddegol o ysgrifennu rhifau. Mae’n cael ei ddefnyddio i gadw’r gwerth lle er mwyn gallu ysgrifennu rhifolyn yn gywir.
Er enghraifft, gallai 305 (tri chant a phump) gael ei gamgymryd am 35 (tri deg a phump) os na fyddai’r sero yn y lle Degau.