swm (symiau) eg

Dyma’r term am ganlyniad adio dau rif neu fwy.

Er enghraifft:

    10 + 7 + 23 + 16 = 56

Y swm yw 56.

Mae swm hefyd yn derm am faint penodol o arian. Er enghraifft, “Nid yw Mr Jones yn gallu fforddio talu swm o’r fath”.