cyfwng dosbarth (cyfyngau dosbarth) eg

Yn aml iawn, mae llawer o ddata ar gael am rywbeth. Mae’n haws trin y data trwy eu grwpio rhwng gwerthoedd penodol.

Er enghraifft, mae taldra 20 disgybl yn cael ei fesur ac mae’r canlyniadau yn cael eu dangos mewn tabl.

Gallwn weld bod y mesuriadau wedi’u grwpio rhwng gwerthoedd penodol o 5, a dyma yw’r cyfwng dosbarth.

Mae’n bosibl cael cyfwng dosbarth cyfartal a chyfwng dosbarth anghyfartal.