trefn esgynnoleb

Mae rhifau sydd wedi eu trefnu o’r lleiaf i’r mwyaf mewn trefn esgynnol. Hynny yw, mae’r rhifau yn cynyddu.

Er enghraifft, 4, 7, 1, 9, 3, 5 mewn trefn esgynnol yw 1, 3, 4, 5, 7, 9.

Gall gwrthrychau gael eu gosod mewn trefn esgynnol hefyd.

Er enghraifft, mae’r llun yn dangos coed sydd wedi eu plannu mewn trefn esgynnol.

Y gwrthwyneb i drefn esgynnol yw trefn ddisgynnol.