hafal ans
Arwydd: =
Mae pethau yn hafal i’w gilydd os oes ganddyn nhw’r un gwerth.
Er enghraifft:
-
Mae 7 – 2 yn rhoi cyfanswm o 5, ac mae 4 + 1 yn rhoi cyfanswm o 5.
Gallwn ddweud bod y ddwy enghraifft hyn yn hafal i’w gilydd gan fod ganddyn nhw’r un cyfanswm.
Rydym yn defnyddio’r arwydd = i ddangos bod pethau’n hafal i’w gilydd.