rhaniad (rhaniadau) eg

Ystyr rhaniad yw’r weithred o rannu, neu’r broses o wahanu.

Gallwn wahanu set yn is-setiau. Meddyliwch am bren mesur sydd fel arfer yn dangos graddfa centimetrau ar y top. Mae israniadau o fewn pob centimetr, sef milimetrau.

Gallwn rannu rhif yn gydrannau gwahanol. Mae’n bosibl rhannu’r rhif 38 mewn nifer o ffyrdd, er enghraifft 30 + 8 neu 19 + 19.

Mae rhaniad hefyd yn fodel o rannu. Mae’n bosibl trin 21 ÷ 7 fel sawl saith sydd yn 21.