tebygolrwydd amodol eg
Mae’r term hwn yn cael ei ddefnyddio yng nghyd-destun tebygolrwydd.
Mae’n gysylltiedig â digwyddiad dibynnol, lle mae tebygolrwydd ail ddigwyddiad wedi ei effeithio gan ddigwyddiad cyntaf.
Er enghraifft, dychmygwch fod pump afal mewn bag – dau afal goch a thri afal gwyrdd. Bob tro mae afal yn cael ei dynnu o’r bag, mae’r tebygolrwydd o dynnu afal o liw penodol yn newid, gan fod lliw yr ail afal yn ddibynnol ar liw yr afal cyntaf.
Tebygolrwydd tynnu afal coch yw . Ar ôl tynnu un afal allan, mae’r tebygolrwydd yn newid.
Felly, y tro nesaf:
• os cafodd afal gwyrdd ei dynnu o’r bag o’r blaen, yna tebygolrwydd tynnu afal coch y tro nesaf yw
• os cafodd afal coch ei dynnu o’r bag o’r blaen, yna tebygolrwydd tynnu afal coch y tro nesaf yw .