llai na neu’n hafal i
Arwydd: ≤
Wrth ddisgrifio set o werthoedd, gallwn ddweud bod y rhifau yn y set yn llai na neu’n hafal i rif penodol. Rydym yn defnyddio’r arwydd ≤ i ddangos hyn.
Er enghraifft, ≤ 6. Mae 3 yn bodloni’r amod hwn gan fod 3 yn llai na 6. Mae 6 hefyd yn bodloni’r amod gan ei fod yn hafal i 6.
Y gwrthwyneb i ‘llai na neu’n hafal i’ yw ‘mwy na neu’n hafal i’.