cymesuredd cylchdro eg

Math o gymesuredd lle mae’n bosibl cylchdroi’r siâp o amgylch pwynt penodol yw cymesuredd cylchdro. Bydd y siâp yn edrych yn union yr un fath ym mhob safle ag yr oedd cyn dechrau ei gylchdroi.

Trefn y cymesuredd cylchdro yw faint o weithiau mae’r siâp yn edrych yr un fath yn ystod un tro cyflawn. Mae gan y ddelwedd hon gymesuredd cylchdro trefn 3.