cyfernod (cyfernodau)eg

Y rhif sy’n ymddangos cyn y newidyn neu’r newidynnau mewn term algebraidd yw cyfernod.

Yn y term 5x², y cyfernod yw 5 a’r newidyn yw x.

Yn y term –4yz, y cyfernod yw –4 a’r newidynnau yw y a z.