barcut (barcutiaid)eg
Pedrochr afreolaidd sydd â phedwar fertig a phedair ochr yw barcut. Mae ganddo ddau bâr o ochrau cyfagos sy’n hafal o ran hyd. Nid oes ganddo ongl fewnol sy’n fwy na 180°.
Mae croeslinau barcut yn croesi ar ongl sgwâr tu mewn i’r siâp, ac mae ganddo un llinell cymesuredd.