rhif cyfeiriol (rhifau cyfeiriol) eg
Mae rhif cyfeiriol yn gallu bod yn rhif negatif neu’n rhif positif.
Hynny yw, mae’r gwerth yn cael ei ddangos, er enghraifft 3, a hefyd y cyfeiriad, – neu +. Wedi dweud hynny, nid yw rhif positif yn dangos yr arwydd plws o’i flaen bob tro, felly mae ‘+4’ yr un peth â ‘4’.
Dyma ychydig enghreifftiau o rifau cyfeiriol:
-
–15.5
2.75