cymhareb euraid eb
Arwydd: φ
Mae’r hyn sydd i’w weld ar ochr dde y sgrin yn dangos y berthynas geometrig hon.
Mae gan gymhareb euraid werth sy’n fras hafal i 1.618.
Mae i’w gweld mewn geometreg, celf, pensaernïaeth a meysydd eraill.
Rydym yn ei darganfod trwy rannu llinell yn ddwy ran. Mae llinell wedi ei rhannu yn y gymhareb euraid os yw rhannu’r rhan hiraf gan y rhan fyrraf yn hafal i’r hyd cyfan wedi ei rannu gan y rhan hiraf.
Dychmygwch fod llinell yn 100 cm o hyd ac mae’n cael ei rhannu’n ddwy ran – 61.8 cm a 38.2 cm. Mae rhannu’r rhan hiraf gan y rhan fyrraf yn hafal i’r hyd cyfan wedi ei rannu gan y rhan hiraf:
-
φ
Mae hyn yn dangos, felly, bod y llinell wedi ei rhannu yn y gymhareb euraid.