graff llinell (graffiau llinell) eg

Mae’r math hwn o graff yn cael ei ddefnyddio’n aml i ddangos tuedd dros amser.

Rydym yn plotio graff llinell fel cyfres o bwyntiau, ac yna rydym yn lluniadu llinell syth i uno pob pwynt. Nid oes rhaid i ddau ben y graff llinell ymuno â’r echelinau.

Gallwn ddefnyddio’r canlynol fel enghraifft.

Mae’r tabl yn dangos y tymheredd sydd wedi’i gofnodi mewn gorsaf dywydd, bob tair awr, am ddiwrnod cyfan.

Mae’r graff llinell yn cynrychioli’r data hyn.