sector (sectorau) eg/eb Mae sector yn rhan o gylch rhwng dau radiws a rhan o’r cylchyn, sef arc. Gellir ei gymharu â darn o deisen. Mae chwarter cylch yn enghraifft o sector lle mae’r ongl rhwng y ddau radiws yn ongl sgwâr.