llinell (llinellau) eb

Mae llinell yn cael ei ffurfio trwy symud pwynt i gyfeiriad neu gyfeiriadau penodol. Er enghraifft, mae’n bosibl tynnu llinell trwy ddefnyddio pensil, pen ac yn y blaen ar ddarn o bapur.

Mae darn o linyn yn enghraifft arall o linell.

Mae’n bosibl cael llinell syth neu linell grom.

Mae’n bosibl ffurfio siâp gan ddefnyddio llinellau.

Mae llinellau yn ffurfio ochrau neu ymylon siapiau tri dimensiwn.