cwmpawd (cwmpawdau)eg

Darn o offer sy’n dangos cyfeiriad yw cwmpawd. Mae’n defnyddio pwyntydd neu nodwydd fagnetig i wneud hyn. O amgylch y pwyntydd/nodwydd mae cylch sydd wedi ei labelu â phwyntiau’r cwmpawd, a/neu gyfeiriannau gwahanol.

Mae’r pwyntydd/nodwydd yn pwyntio tuag at y gogledd magnetig bob tro.