cywerth ans

Mae cywerth yn cael ei ddefnyddio wrth sôn am bethau sydd â’r un gwerth.

Er enghraifft:

    Mae 60 eiliad yn gywerth ag 1 funud.

    Mae £1 yn gywerth ag 100 o geiniogau.

Mae ffracsiynau yn gallu bod yn gywerth hefyd, er efallai y byddan nhw’n edrych yn wahanol.

Er enghraifft, mae dau chwarter yn gywerth â hanner.