gweddill eg Dyma’r enw ar y swm sy’n weddill ar ôl rhannu un rhif â rhif llai. Er enghraifft, nid yw 29 yn gallu cael ei rannu’n union â 7. Yr agosaf yw 7 × 4 = 28, sydd 1 yn llai na 29. Felly, y gweddill yw 1.