diagram canghennog (diagramau canghennog) eg

Mae diagram canghennog yn ffordd o ddangos pob canlyniad sy’n bosibl o ddau neu fwy o ddigwyddiadau, a’u tebygolrwydd.

Gallwn roi canghennau ar y diagram i ddangos y posibiliadau ar gyfer pob digwyddiad.

Dychmygwch fod dau fag yn cynnwys peli o liwiau gwahanol. Mae un bag yn cynnwys 7 pêl las a 5 pêl werdd, ac mae’r bag arall yn cynnwys 4 pêl las a 6 phêl goch. Mae pêl yn cael ei thynnu ar hap o’r bag cyntaf a’r lliw yn cael ei nodi. Yna, mae pêl yn cael ei thynnu ar hap o’r ail fag a’i lliw yn cael ei nodi.

Cyferbyn, mae’r diagram canghennog wedi’i gwblhau.

Gallwn weld mai’r tebygolrwydd o dynnu dwy bêl las yw:

\dfrac{7}{\text{12}} \times \dfrac{4}{10} = \dfrac{28}{120}