cyfrannedd gwrthdro eg

Cyfrannedd gwrthdro yw perthynas rhwng dau faint. Wrth i un maint gynyddu mae’r maint arall yn lleihau, neu i’r gwrthwyneb.

Enghraifft o gyfrannedd gwrthdro yw hyd a lled petryalau sydd â’r un arwynebedd.

Os ydym yn dyblu hyd un ochr o’r petryal, rhaid haneru’r lled er mwyn i’r arwynebedd aros yr un peth.

Mae’r diagram cyferbyn yn dangos hyn.

Enghraifft arall yw peiriannau sy’n cyflawni swyddogaeth benodol. Wrth i nifer y peiriannau (x) sy’n gwneud y gwaith gynyddu, mae’r amser maen nhw’n ei gymryd (y) yn lleihau. Mae’r graff cyferbyn yn dangos hyn. Gallwn ysgrifennu’r berthynas hon fel y ∝ 1/x sy’n cael ei fynegi mewn geiriau fel ‘mae y mewn cyfrannedd gwrthdro ag x‘.