gweithrediad (gweithrediadau)eg
Proses fathemategol sy’n defnyddio un neu fwy o fewnbynnau i gynhyrchu allbwn penodol yw gweithrediad.
Y gweithrediadau mwyaf cyffredin yw:
• adio
• tynnu
• lluosi
• rhannu.
Mae llawer o weithrediadau eraill hefyd. Er enghraifft sgwario, negyddu ac ail isradd.